Wedi’i sefydlu fel tref farchnad ar ddiwedd y 13eg ganrif, gyda marchnad ar waith ers yr Oesoedd Canol, tyfodd y Drenewydd yn gryf wrth i’r diwydiant gwlân ehangu ar ddechrau’r 19eg ganrif. Roedd yn ganolbwynt rhyngwladol ar gyfer y diwydiant gwlanen. Mae’r hen Gyfnewidfa Wlanen wedi goroesi hyd heddiw fel lleoliad adloniant. Ganed y diwygiwr cymdeithasol a’r arloeswr diwydiannol Robert Owen yn y Drenewydd ym 1771 a gadawodd i geisio ei ffortiwn ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Dychwelodd i’r dref ychydig cyn ei farwolaeth, Tachwedd 17eg, 1858. Mae syniadau Owen wedi cael dylanwad byd-eang a daeth yn gonglfaen y mudiad cydweithredol rhyngwladol. Mae amgueddfa wedi’i chysegru er cof am Owen yng nghanol y dref.
Mae’r Drenewydd hefyd yn enwog am enedigaeth y busnes adwerthu archebu drwy’r post a ddechreuodd yr entrepreneur lleol Pryce Jones yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy anfon nwyddau i Brydain ac Ewrop o’r Drenewydd. Mae ei Warws Brenhinol Cymreig yn dal i ddominyddu’r treflun. Ymhlith ei gwsmeriaid roedd y Frenhines Victoria a Florence Nightingale. Credir i’r post parsel gael ei gychwyn ym Mhrydain o ganlyniad i awgrym a wnaed gan Pryce Jones i’r Postfeistr Cyffredinol. Cafodd cysylltiad y dref â’r diwydiant tecstilau ei adfywio yn yr 20fed ganrif pan sefydlodd y wraig fusnes Laura Ashley ei chwmni dodrefn a dillad cartref yn yr ardal.
Mae’r Drenewydd bellach yn gartref i’r Amgueddfa Tecstilau, Oriel Davies Gallery, lleoliad adloniant Hafren, cyfleusterau chwaraeon lleol a chanol tref ddeniadol wedi’i gosod yn erbyn cefndir prydferthwch Dyffryn Hafren. Yn ogystal â’i atyniadau niferus, fel y dref fwyaf yng nghanolbarth Cymru, mae’r Drenewydd yn darparu’r ganolfan ddelfrydol i archwilio’r wlad o amgylch. Mae gwarchodfeydd natur, llwybrau camlas, Ffordd Hafren a gerllaw, Neuadd a Gerddi Gregynog.